Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
8 Ionawr 2018
SL(5)156 – Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1992("Rheoliadau 1992").
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy ddefnyddio Atodlen 4 newydd (Ffigurau'r Boblogaeth Oedolion).
Deddf Wreiddiol: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
Fe’u gwnaed ar: 28 Tachwedd 2017
Fe’u gosodwyd ar: 30 Tachwedd 2017
Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2017